R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o gynnydd merched yn system addysg Cymru? OAQ(4)1661(FM)
2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fand eang gwledig yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1653(FM)
3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr Ardaloedd Menter yn ne Cymru? OAQ(4)1655(FM)
4. Sandy Mewies (Delyn):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ag anableddau i gael gafael ar hyfforddiant er mwyn cael cyflogaeth? OAQ(4)1660(FM)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r camau y mae’n eu cymryd i fynd i’r afael â pherfformiad gwael yn GIG Cymru? OAQ(4)1647(FM)
6. Gwyn Price (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg yn Islwyn? OAQ(4)1652(FM)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1646(FM)
8. Elin Jones (Ceredigion): Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi busnesau bach? OAQ(4)1654(FM)W
9. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Dwf Swyddi Cymru? OAQ(4)1650(FM)
10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am beryglon bod yn gaeth i hapchwarae ar-lein? OAQ(4)1649(FM)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith yr Uned Gyflawni mewn perthynas â dinasyddion Canol De Cymru? OAQ(4)1657(FM)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cyllid ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)1648(FM)
13. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau capasiti ar yr M4? OAQ(4)1663(FM)
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynhyrchu bwyd i economi Cymru? OAQ(4)1656(FM)
15. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr amserlen ar gyfer cyflwyno Safonau’r Iaith Gymraeg? OAQ(4)1662(FM)W